Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol
Enghraifft o'r canlynol | swydd ![]() |
---|---|
Math | Ysgrifennydd Gwladol ![]() |
Daeth i ben | 8 Mai 2007 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 12 Mehefin 2003 ![]() |
Olynydd | Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3b/Official_portrait_of_Lord_Falconer_of_Thoroton_crop_2.jpg/220px-Official_portrait_of_Lord_Falconer_of_Thoroton_crop_2.jpg)
Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol yn swydd Cabinet Llywodraeth Prydain, a grëwyd yn 2003. Trosglwyddwyd rhai o swyddogaethau'r Arglwydd Ganghellor i'r Ysgrifennydd Gwladol newydd. Yn ddiweddarach, trosglwyddwyd swyddogaethau pellach i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol gan y Prif Ysgrifennydd Gwladol, swydd o fewn y llywodraeth a deiliwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog.
Unig ddeiliad y swydd oedd yr Arglwydd Falconer a oedd hefyd yn parhau i wasanaethu fel Arglwydd Ganghellor ar yr un pryd.
Crëwyd y swydd yn ffurfiol trwy gymeradwyaeth Gorchymyn Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol 2003 (OS 2003 Rhif 1887). Daeth y swydd i ben ar 9 Mai 2007, a throsglwyddwyd ei holl gyfrifoldebau i adran newydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder. Deiliad cyntaf y swydd newydd oedd yr Arglwydd Falconer hefyd.
Ysgrifenyddion Gwladol dros Gyfiawnder[golygu | golygu cod]
Enw | Delwedd | Cyfnod yn y Swydd | Plaid | Prif Weinidog | Nodiadau | |||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Falconer o Thoroton PC, QC[1] |
![]() |
12 Mehefin 2003 | 8 Mai 2007 | Llafur | Tony Blair | Bu hefyd yn Arglwydd Ganghellor; wedyn daeth yn Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder. |